Ewch yn ôl at y mesurau cynnydd a’r tueddiadau a nodwyd gennych yn wreiddiol fel rhai oedd yn berthnasol i blant.
- Beth oedd y negeseuon allweddol oedd yn dod i’r amlwg o’r data gwaelodlin oedd yn berthnasol i blant? Beth oedd tueddiadau’r dyfodol?
- Beth mae’r data cyfredol yn ei ddweud wrthych am sut mae’r sefyllfa i blant wedi neu heb newid wrth gymryd camau i gyflawni’r amcanion llesiant/yn ystod cyfnod y prosiect? Ydy hyn yn cyfateb i’r tueddiadau at y dyfodol a nodwyd ar y cychwyn?
- Beth oedd allbynnau’r amcan llesiant/prosiect?
- Sut mae eich amcanion llesiant/prosiect wedi cyfrannu at sicrhau hawliau a llesiant tymor hir plant?
- Os nad yw’r sefyllfa wedi newid, beth oedd y rhwystrau a pha newidiadau allai fod yn angenrheidiol i oresgyn y rhain yn y dyfodol? Efallai y byddwch am ystyried cwmpas a dyraniad adnoddau ariannol, dynol a thechnegol sydd wedi’u neilltuo ar gyfer plant.
- I ba raddau y llwyddwyd i gynnwys plant yn natblygiad yr amcanion llesiant/y prosiect? I ba raddau y llwyddwyd i roi sylw i’w barn? Beth newidiodd o ganlyniad?
- Beth mae plant yn ei ddweud nawr ynghylch sut gallai eu llesiant fod wedi newid neu beidio?